Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
2 Mai 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4980
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 2 a 3 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ar ôl cwestiwn 3.
Dechreuodd yr eitem am 14.18
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn.
Cododd Mick Antoniw Bwynt o Drefn o dan Reolau Sefydlog 13.9 (ii) – (iv) a (vi) gan gyfeirio at ddeunydd a ddosbarthwyd yn ddigymell gan Neil Hamilton ar ddesgiau’r Aelodau cyn dechrau’r Cyfarfod Llawn. Dywedodd yr Aelod y byddai’n ddiolchgar pe byddai’r Dirprwy Lywydd yn gwneud dyfarniad ar yr hyn yr ystyriai ef i fod yn ymddygiad tramgwyddus a digywilydd, gyda’r bwriad o ddylanwadu ar ddadl benodol ond heb fod yn berthnasol iddi, a heb fod wedi cael dim awdurdod – hyd y gwyddai ef – gan y Llywydd.
Dywedodd y Dirprwy Lywydd ei bod yn ymwybodol bod Neil Hamilton wedi dosbarthu deunydd wedi’i argraffu ar ddesgiau’r Aelodau yn y Siambr cyn dechrau’r Cyfarfod Llawn heddiw. Dywedodd nad oedd yn ei hystyried yn briodol i Aelodau ddosbarthu pamffledi i’w gilydd yn y Siambr, boed y deunydd hwnnw’n berthnasol i drafodion y Cynulliad ai peidio. At hynny, dywedodd ei bod yn arbennig o ddigywilydd ac amhriodol i Aelodau gyflawni’r fath weithgarwch yn ddienw, bod gan Aelodau’r fraint o gael eu clywed yn y Siambr hon ac y dylent gyflwyno eu safbwynt mewn dadleuon, ac nad yw’n disgwyl i’r fath ymddygiad gael ei ailadrodd gan unrhyw Aelod.
Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau amserol.
Dechreuodd yr eitem am 14.47
Gwnaeth Jack Sargeant ddatganiad ar gêm Nomads Cei Conna yn erbyn Aberystwyth yn Rownd Derfynol Cwpan JD Cymru yn y Drenewydd ar 6 Mai.
Dechreuodd yr eitem am 14.49
Dechreuodd yr eitem am 14.56
Yn unol â Rheol Sefydlog 11.15(i), penderfynodd y Pwyllgor Busnes y cynhelir unrhyw bleidlais angenrheidiol ar y cynnig o dan yr eitem hon ar unwaith wedi i’r eitem honno ddod i ben.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM6710 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad – Adroddiad 01-18gyda’r adroddiad gan Syr John Griffith Williams QC o dan baragraff 8.6 o’r weithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion erbyn Aelodau’r Cynulliad – a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 18 Ebrill 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9.
2. Yn cymeradwyo'r argymhelliad yn yr adroddiad bod achos o dorri amodau wedi ei ganfod a phenderfynu y dylai'r Aelod, o dan Reol Sefydlog 22.10 (i) a (iii) gael ei geryddu a'i wahardd o drafodion y Cynulliad am y cyfnod o saith niwrnod calendr yn syth ar ôl derbyn y cynnig hwn.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
1 |
3 |
42 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cododd Rhun ap Iorwerth Bwynt o Drefn o dan Reol Sefydlog 13.9 ynglŷn â chyhuddiadau a wnaed yn y ddadl flaenorol am ymddygiad cyfystyr â hiliaeth yn y Siambr. Er na wnaeth yr Aelod a wnaeth y cyhuddiadau bennu pwy oedd dan sylw, credai Rhun ap Iorwerth ei fod yn pardduo enwau’r holl Aelodau a gofynnodd am ddyfarniad gan y Dirprwy Lywydd. Dywedodd y Dirprwy Lywydd y byddai’n adolygu’r cofnod ac yn ystyried y mater eto yn ddiweddarach.
Dechreuodd yr eitem am 15.11
NDM6695
Jane
Hutt (Bro Morgannwg)
Jenny
Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi gwaith ymchwil gan Plan International UK ar dlodi misglwyf a stigma, sy'n amcangyfrif bod un ym mhob 10 o ferched yn y DU wedi methu â fforddio cynhyrchion misglwyf.
2. Yn croesawu'r camau y mae sefydliadau yng Nghymru yn eu cymryd, gan gynnwys Periods in Poverty, Wings Cymru, The Red Box Project, Ymddiriedolaeth Trussell ac eraill, i fynd i'r afael â mater hwn.
3. Yn nodi'r adroddiad terfynol gan weithgor craffu cyngor Rhondda Cynon Taf a sefydlwyd i ddelio â darparu cynhyrchion misglwyf am ddim mewn ysgolion.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ystyried ymchwil presennol a newydd ar effaith bosibl tlodi misglwyf a stigma ar ddysgu;
b) ystyried galwadau i wella addysg ar y pwnc a chynnig cynhyrchion misglwyf am ddim mewn sefydliadau addysg; ac
c) nodi ffyrdd i sicrhau bod cynhyrchion misglwyf ar gael i fanciau bwyd Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.48
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6712 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).
2. Yn nodi ymhellach fod y cytundeb yn gwneud y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) a basiwyd gan fwyafrif yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn ddiangen.
3. Yn gresynu at y ffaith bod y cytundeb yn rhoi feto dros feysydd deddfwriaeth ddatganoledig i Senedd y DU.
4. Yn gresynu ymhellach at y ffaith bod y cytundeb yn tanseilio Papur Gwyn Llywodraeth Cymru-Plaid Cymru sy'n datgan "na ddylai ymadawiad y DU o’r UE arwain at Lywodraeth y DU yn crafangu pwerau datganoledig yn ôl. Bydd unrhyw ymgais o’r fath yn cael ei gwrthwynebu’n gadarn gennym".
5. Yn galw am bleidlais ystyrlon ar y cytundeb yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
7 |
0 |
39 |
46 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu:
a) y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael);
b) y bydd hyn yn amddiffyn marchnad fewnol y DU ac yn sicrhau na fydd rhwystrau newydd yn cael eu creu o fewn y DU ar gyfer defnyddwyr a busnesau;
c) bod hyn yn golygu y bydd y mwyafrif llethol o bwerau'r UE sy'n croestorri â chymwyseddau datganoledig yn mynd yn uniongyrchol i seneddau a chynulliadau datganoledig pan fydd y DU yn gadael yr UE;
d) y ddyletswydd a osodir ar Weinidogion y DU i geisio cytundeb y deddfwrfeydd datganoledig bob tro y maent yn bwriadu gwneud rheoliadau i roi maes polisi o dan y pwerau sydd wedi'u rhewi yng nghymal 11;
e) y terfyn amser a gyflwynwyd ar y cyfyngiad dros dro ar gymhwysedd datganoledig; ac
f) bod hyn yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru bellach yn argymell bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n pasio cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer Bil (Ymadael) yr UE.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
32 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2. Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
3. Yn cytuno bod y canlyniad cadarnhaol hwn i'r negodiadau â Llywodraeth y DU yn diogelu pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol dros bolisïau datganoledig yn yr amgylchiadau sy'n newid sydd wedi'u creu gan Brexit ac yn cyfnerthu Confensiwn Sewel, ar sail y sefyllfa ddiofyn bod angen cydsyniad y Cynulliad ar gyfer newidiadau i gymwyseddau'r Cynulliad.
4. Yn croesawu'r ffaith y caiff unrhyw fframweithiau gan y DU gyfan i ddisodli fframweithiau presennol yr UE eu negodi'n rhydd rhwng y llywodraethau ac y byddant yn ddarostyngedig i Gonfensiwn Sewel; a thra bo'r fframweithiau hyn yn cael eu negodi, na fydd unrhyw Lywodraeth, gan gynnwys Llywodraeth y DU mewn perthynas â Lloegr, yn gallu cyflwyno deddfwriaeth sy'n gwyro oddi ar y sefyllfa bresennol.
5. Yn nodi ymhellach y caiff y Cynulliad Cenedlaethol y cyfle am bleidlais ystyrlon ar y cytundeb pan fydd yn ystyried y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol sydd i'w gyflwyno gan Lywodraeth Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
7 |
45 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6712 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).
2. Yn nodi ymhellach fod y cytundeb yn gwneud y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) a basiwyd gan fwyafrif yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn ddiangen.
3. Yn cytuno bod y canlyniad cadarnhaol hwn i'r negodiadau â Llywodraeth y DU yn diogelu pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol dros bolisïau datganoledig yn yr amgylchiadau sy'n newid sydd wedi'u creu gan Brexit ac yn cyfnerthu Confensiwn Sewel, ar sail y sefyllfa ddiofyn bod angen cydsyniad y Cynulliad ar gyfer newidiadau i gymwyseddau'r Cynulliad.
4. Yn croesawu'r ffaith y caiff unrhyw fframweithiau gan y DU gyfan i ddisodli fframweithiau presennol yr UE eu negodi'n rhydd rhwng y llywodraethau ac y byddant yn ddarostyngedig i Gonfensiwn Sewel; a thra bo'r fframweithiau hyn yn cael eu negodi, na fydd unrhyw Lywodraeth, gan gynnwys Llywodraeth y DU mewn perthynas â Lloegr, yn gallu cyflwyno deddfwriaeth sy'n gwyro oddi ar y sefyllfa bresennol.
5. Yn nodi ymhellach y caiff y Cynulliad Cenedlaethol y cyfle am bleidlais ystyrlon ar y cytundeb pan fydd yn ystyried y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol sydd i'w gyflwyno gan Lywodraeth Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
7 |
46 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 16.41
Dechreuodd yr eitem am 16.43
NDM6711 Rhianon Passmore (Islwyn)
Gwlad y gân: datblygu strategaeth addysg cerdd i Gymru
Daeth y cyfarfod i ben am 17.01
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 8 Mai 2018